Psalms 115

Yr unig Dduw go iawn

1Nid ni, O Arglwydd, nid ni –
ti sy'n haeddu'r anrhydedd i gyd,
am ddangos y fath gariad a ffyddlondeb.
2Pam dylai pobl y cenhedloedd ddweud,
“Ble mae eu Duw nhw nawr?”
3Y gwir ydy mae Duw yn y nefoedd,
ac mae'n gwneud beth bynnag mae eisiau!
4Dydy eu heilunod nhw'n ddim ond arian ac aur
wedi eu siapio gan ddwylo dynol.
5Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad;
llygaid, ond allan nhw ddim gweld;
6clustiau, ond allan nhw ddim clywed;
trwynau, ond allan nhw ddim arogli;
7dwylo, ond allan nhw ddim teimlo;
traed, ond allan nhw ddim cerdded;
a dydy eu gyddfau ddim yn gallu gwneud sŵn!
8Mae'r bobl sy'n eu gwneud nhw,
a'r bobl sydd yn eu haddoli nhw,
yn troi'n debyg iddyn nhw!
9Israel, cred di yn yr Arglwydd!
Fe sy'n dy helpu di ac yn dy amddiffyn di.
10Chi offeiriaid, credwch yn yr Arglwydd!
Fe sy'n eich helpu ac yn eich amddiffyn chi.
11Chi sy'n addoli'r Arglwydd, credwch yn yr Arglwydd!
Fe sy'n eich helpu chi ac yn eich amddiffyn chi.
12Mae'r Arglwydd yn cofio amdanon ni,
a bydd yn ein bendithio ni –
Bydd yn bendithio pobl Israel;
Bydd yn bendithio teulu Aaron;
13Bydd yn bendithio'r rhai sy'n addoli'r Arglwydd,
yn ifanc a hen.
14Boed i'r Arglwydd roi plant i chi;
ie, i chi a'ch plant hefyd!
15Boed i'r Arglwydd, wnaeth greu y nefoedd a'r ddaear,
eich bendithio chi!
16Yr Arglwydd sydd piau'r nefoedd,
ond mae wedi rhoi'r ddaear yng ngofal y ddynoliaeth.
17Dydy'r meirw ddim yn gallu moli'r Arglwydd,
maen nhw wedi mynd i dawelwch y bedd.
18Ond dŷn ni'n mynd i foli'r Arglwydd
o hyn allan, ac am byth!

Haleliwia!
Copyright information for CYM